Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 5 Rhagfyr 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


176(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): O ystyried bod adroddiad diweddar Estyn yn datgan y gallai ysgolion uwchradd yng Nghymru wneud yn well, gyda dim ond hanner wedi'u barnu i fod yn dda neu’n ardderchog ar hyn o bryd, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y codir safonau ar draws holl ysgolion uwchradd Cymru?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 03-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

(15 munud)

NDM6890  Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

</AI5>

<AI6>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Perfformiad Llwyodraeth Cymru

(60 munud)

NDM6892 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:

a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;

b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;

c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;

d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;

e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;

f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;

g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;

h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;

i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;

 j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a

 k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.

 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:

1.    Yn cydnabod:

a)    Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos

b)    Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen

c)    Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed

d)    Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018

e)    Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010

f)     Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015

g)    Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017

h)    Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2%  o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt – y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU

i)     Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl

j)     Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl Fer

(30 munud)

NDM6891 David Melding (Canol De Cymru)

Yr oes Neolithig yn stori Cymru: gwerthfawrogi yr hyn a gyflawnwyd cyn hanes.

Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynhanes ym mywyd diwylliannol Cymru.

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

</AI8>

<AI9>

9       Dadl ar Gyfnod 3 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

(120 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1.  Dyletswydd i ddarparu gofal plant a gyllidir

4*, 4A*, 4B*, 20

2. Cymhwystra rhieni

6, 11, 8, 9, 17, 19, 10, 22, 5

3. Darpariaeth gofal plant Cymraeg

7

4. Cludo rhwng darparwyr

12

5. Ffïoedd ychwanegol a chyfraddau talu

13, 21, 32, 33

6. Plant cymhwysol

14, 15, 16, 18

7. Rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru

1, 3

8. Offerynnau statudol: newidiadau i weithdrefnau

23

9. Categorïau o ddarparwyr gofal plant a gyllidir

24, 25

10. Trefniadau gweinyddol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir

26, 27, 28

11. Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

29

12. Adolygiad ac adroddiadau ar effaith y Ddeddf a darpariaeth fachlud

30, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2, 35

13. Dyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth

31

14. Cynllunio’r gweithlu 

34

15. Cychwyn

36

Dogfennau Ategol

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Rhagfyr 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>